Ymholiadau
Digwyddiadau
Gallaf ddarparu cerddoriaeth mewn digwyddiadau preifat neu gorfforaethol, dathliadau pen-blwydd neu deuluol, lansiadau neu agoriadau swyddogol a derbyniadau.
Gall y delyn ychwanegu naws arbennig iawn at bob math o achlysuron ac ymdrechaf i sicrhau bod y gerddoriaeth rwy’n ei dewis yn addas i’r achlysur. Mae rhwydd hynt ichi hefyd ddewis y gerddoriaeth eich hun. Mae fy repertoire yn cynnig ystod eang iawn o arddulliau cerddorol.
Cysylltwch â mi i drafod eich anghenion. Edrychaf ymlaen at eich helpu chi i ychwanegu naws arbennig at eich digwyddiad.