Heledd Davies - Telynores
Dechreuais ddysgu canu’r delyn gyda Mrs Delyth Evans, Aberystwyth pan oeddwn yn yr ysgol gynradd. Dan ei harweiniad medrus hi, llwyddais yn fy arholiad Gradd 8 gydag Anrhydedd cyn mynd ymlaen i gael gwersi gyda Sali Wyn Islwyn am gyfnod tra oeddwn yn fyfyrwraig israddedig yn Abertawe, gan achub ar y cyfle i fireinio rhagor ar fy nhechneg ac ehangu fy repertoire.
Mae’r delyn wedi bod yn rhan bwysig o’m bywyd ers pan oeddwn yn ifanc. Rwy’n canu telyn gyngerdd ‘Gwynneth’ 47 tant o wneuthuriad Allan Shiers a thelyn Geltaidd Eos 36 tant gan Delynau Teifi, Llandysul. Rwyf wedi cael amrywiaeth o brofiadau dros y blynyddoedd. Llwyddais i ennill lle yng Ngherddorfa Ieuenctid Cymru yn haf 1999 ac yn fwy diweddar, bûm ar daith gyda fy nhelyn Geltaidd yn aelod o’r Glerorfa dan arweiniad Stephen Rees a Robin Huw Bowen. Roedd hwn yn gyfle gwych i ddysgu rhagor am dechnegau traddodiadol Gymreig o chwarae.
Gall sain y delyn ychwanegu naws hyfryd at unrhyw ddigwyddiad, er enghraifft:
- Priodasau eglwys neu gapel
- Priodasau sifil
- Partneriaethau sifil
- Ciniawau
- Digwyddiadau / derbyniadau corfforaethol
- Dathliadau pen-blwydd neu deuluol.
Rwyf wedi gweithio dros y blynyddoedd i feistroli cerddoriaeth o bob math ar y delyn a cheisiaf fy ngorau i ddiwallu amrywiaeth o chwaethau cerddorol. Gallaf gynnig cerddoriaeth o’r sioeau cerdd, darnau clasurol, alawon traddodiadol a Cheltaidd ynghyd â cherddoriaeth gan artistiaid mwy cyfoes, ac rwy’n ychwanegu’n barhaus at fy repertoire.